Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 12.45
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
(45 munud)
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
5 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o 61 o fanwerthwyr diodydd sy'n gweithredu yng Nghymru yn ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am eithrio gwydr o'i gynllun dychwelyd ernes yn unol â gweddill y DU?
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Yn sgil datgeliadau diweddar, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch faint o aelodau o genhedlaeth Windrush o Gymru ag afiechyd cronig a meddyliol a gafodd eu halltudio?
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gydag ysgolion i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch dŵr yn dilyn y boddi trasig ger pier Aberafan nos Lun?
6 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio - Gohiriwyd
(0 munud)
NDM8293 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;
b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;
d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac
e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.
Cefnogwyr
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deintyddiaeth
(60 munud)
NDM8299 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Deintyddiaeth’ a osodwyd ar 15 Chwefror 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2023.
9 Dadl Plaid Cymru - Datganoli cyfiawnder a phlismona
(60 munud)
NDM8300 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, dros chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er nad oes sail resymol dros hyn.
2. Yn credu:
a) y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a
b) y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl îs-bwynt 2 (a) a rhoi yn ei le:
y gall sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona yn well er budd pobl Cymru; a
bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.
10 Cyfnod Pleidleisio
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8291 Joel James (Canol De Cymru)
Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2023